RYDYM NI FEL YSGOL YN GWEITHREDU SIARTER IAITH SIR GAR.
Nod syml y Siarter Iaith yw arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg.
Mae’r Siarter Iaith yn gofyn am gyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol er mwyn sicrhau perchnogaeth llawn ohoni.
CRIW CYMRAEG YSGOL LLANLLWNI 2018 – 2019
Dyma dargedau’r Criw Cymraeg er mwyn gweithio tuag at y wobr arian:
- Sefydlu ethos Gymraeg gweladwy.
- Cydnabod manteision dysgu Cymraeg
- Defnyddio Cymraeg bob dydd yn y dosbarth.
- Defnyddio Cymraeg bob dydd tu allan i’r dosbarth.
- Gwasanaethau Cymraeg
- Apiau a gwefannau i hyrwyddo a chefnogi’r dysgu
- Gweithgareddau allgyrsiol
- Datblygu darllen
- Cymraeg ar draws y Cwricwlwm.
- Agwedd bositif
GWOBR EFYDD SIARTER IAITH SIR GAR
Gweledigaeth yr Ysgol
- Ein nod yn syml felly yw bydd pob disgybl yn siarad Cymraeg yn naturiol ar yr iard ac yn y dosbarth fel cyfrwng cyfathrebu, dysgu, chwarae a chymdeithasu yn yr ysgol.
- Gweledigaeth Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanllwni yw y byd pob plentyn yn siarad Cymraeg graenus ym mhob agwedd o’i fywyd ac y byddant yn ymfalchio yn iaith, diwylliant a thraddodiadau Cymreig.
WYTHNOS CYMRU CŴL
Cawson ni bore coffi llwyddiannus tu hwnt er mwyn lansio Siarter Iaith Ysgol Llanllwni. Yn ystod y bore buodd y plant yn perfformio amrywiaeth o eitemau.
Marc Griffiths Cymru Fm
Ar y 7fed o Dachwedd daeth Marc Griffiths i’m hysgol er mwyn cynnal gweithdy Radio Cymru FM. Roedd yn ddiwrnod hwylus dros ben! Cafodd y plant gyfleoedd i gynllunio, creu a pherfformio rhaglen eu hunan. Cafodd y rhaglen yma ei chwarae ar ‘Cymru FM.’
Sali Mali yn ymweld â Ysgol Llanllwni
Daeth Sali Mali i ymweld â phlant Ysgol Llanllwni, yn ogystal daeth aelod o Fenter Iaith i Ysgol Llanllwni er mwyn darllen stori am Sali Mali i ddisgyblion CS.
Coleg Aberystwyth
Dyma ddisgyblion CA2 yn cyd-weithio a myfyriwr Coleg Aberystwyth er mwyn creu ‘Mascot’ Siarter Iaith.
Gemau’r Buarth
Buodd Gwyneth o Fenter Iaith allan yn yr ysgol yn dysgu’r plant a staff am gemau’r buarth. Cafodd y plant llawer o hwyl a sbri wrth ddysgu sut i chwarae’r gemau. Mae staff a’r Criw Cymraeg yn arwain gemau buarth ar yr iard yn ystod amser chwarae.